| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Amodau Cymdeithasol Staff y Wyrcws Mae'r cyfrifiad yn dangos fod 5 aelod o staff yn nhloty Llanfyllin:
Thomas Askey, fel y meistr, oedd yn gyfrifol am redeg y wyrcws o ddydd i ddydd ac am dderbyn tlodion a delio gyda materion a effeithiai ar y trigolion. Roedd hefyd yn atebol i Fwrdd y Gwarcheidwaid a oedd yn cyfarfod bob pythefnos i ddelio â materion ariannol ac i benderfynu ar y pethau pwysicaf a effeithiai ar y wyrcws. Disgwylid i Feistr dalu am gynnal eu plant a oedd yn byw gyda nhw yn y wyrcws os oeddynt yn bwyta'r bwyd yno. Yn yr achos hwn byddai wedi derbyn cymorth gan ei wraig fel metron, ac os nad oedd nyrs yn y wyrcws byddai'r metron wedi gwneud y gwaith hwnnw hefyd. Roedd Llanfyllin yn ffodus o gael 2 nyrs breswyl, un ar gyfer dyletswyddau nyrsio cyffredinol ac un i ofalu am fabanod. Dim ond yn 1919 y ffurfiolwyd hyfforddiant nyrsio'n gyfreithiol ac y daeth raid i nyrsys gofrestru gyda'r Cyngor Hyfforddiant Nyrsio. Nid yw'n glir felly a oedd Ellen Davies a Jane Jones wedi'u cymhwyso fel nyrsys yn yr ystyr fodern er y daeth y rhain yn fwy cyffredin fel ai'r y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ei blaen. Gadawodd Jane Jones y wyrcws ym mis Ebrill a chymerodd Elizabeth Hughes ei lle:
Gadawodd Ellen Davies yr Undeb hefyd yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Roedd gan y porthor lawer gyfrifoldebau amrywiol ac ymarferol, er y cafodd y Meistr ychydig o broblemau gyda rhagflaenydd John Griffiths.
O ganlyniad bu raid hysbysebu ei swydd:
Mae'n debyg y byddai porthor a allai hefyd wneud gwaith teiliwr neu grydd yn arbed arian i'r Undeb. Yn y cyfarfod nesaf penodwyd John Griffiths:
Yn ogystal â staff preswyl cyflogai'r
Undeb nifer o bobl eraill. Roedd llawer mwy o staff
preswyl mewn Wyrcws fwy megis un Forden. Wrth gwrs, disgwylid i'r trigolion gynorthwyo gyda holl dasgau'r wyrcws. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||