| |||||||||
|
1891 |
Amodau Cymdeithasol Cymorth Allanol Gwneid taliadau mewn arian neu nwyddau i dlodion y plwyfi yn yr Undebau nad oedd yn byw yn y wyrcws. Roedd Deddf Diwygio Deddf y Tlodion 1834 wedi rhagweld talu i bobl gorfforol abl yn y gymuned am gyfnod o ddim ond dwy flynedd yn unig. Ar ôl hynny byddai raid iddynt fynd i'r wyrcws. Fodd bynnag, yn ymarferol, achosodd y rheol hon gymaint o elyniaeth fel y câi rhai taliadau eu gwneud ar ôl dwy flynedd. Dim ond aelodau mwyaf diymadferth cymdeithas a dueddai i fynd i'r wyrcws. Penderfynai Bwrdd Llanfyllin ar geisiadau am gymorth allanol yn ei gyfarfod bob pythefnos a hefyd pa bryd dylid newid y taliadau. Yn y cyfarfod ar 28ain Mai 1891:-
Ac ar 29ain Hydref:
Roedd llawer o waith y Bwrdd yn ei gyfarfod bob pythefnos ynghylch sicrhau fod arian cynnal yn cael ei dalu. Golygai hyn fynd ar ôl tadau a oedd yn esgeuluso cynnal eu teuluoedd, megis yn achos eithafol Uriah Morrallee (y bu'n rhaid i'w deulu fynd i'r wyrcws oherwydd ei esgeulustod) a hefyd blant mewn oed rhieni ar y clwt a oedd yn gyfrifol am eu cynnal rhag iddynt fynd i'r wyrcws fel tlodion. Roedd hyn yn tueddu achosi peth poendod a chaledi ymysg y plant, megis mab Margaret Worthington yn y cyfarfod ar 16eg Ebrill.
Serch hynny, roedd digwyddiadau, yn ôl
pob tebyg, wedi mynd y tu hwnt i'r partïon oedd yn gysylltiedig fel y mae'r
darn nesaf ar 20fed Awst 1891 yn darllen:
| ||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||