| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Cymuned Stephen Williams, Syrfëwr y Sir
Symudodd i Raeadr yn Sir Faesyfed yn 1862 a phriododd Maria, merch y Capten James o Benralley. Sefydlodd Stephen Williams ei hunan fel asiant tir a syrfëwr, yn 1886 gan dderbyn ei gymwysterau fel pensaer. Penodwyd ef yn ddiweddarach fel syrfëwr ar gyfer Sir Faesyfed.
Roedd ganddo ddigon o waith fel Syrfëwr y Sir ac fel ymarferydd preifat. Roedd hyn yn cynnwys caeau, pontydd, tai, adeiladau cyhoeddus, eglwysi a llawer iawn o waith ar ran Corfforaeth Birmingham mewn perthynas â'r gwaith dwr yng Nghwm Elan. Yn ogystal â'i waith tirfesur a sgiliau pensaernïol, roedd yn hanesydd lleol gwybodus gyda diddordeb arbennig mewn archeoleg. Bu'n goruchwylio nifer o gloddiadau lleol. Ef ddechreuodd gorfflu gwirfoddol cyntaf Rhaeadr hefyd gan gael ei ddyrchafu yn y pen draw i reoli Reifflwyr 1af Swydd Henffordd yn 1898. Ar adeg cyfrifiad 1891, roedd ym Mhenrally gyda'i wraig Maria:
Bu farw ar 11eg Rhagfyr 1899. Am ragor o wybodaeth am Stephen Williams, ewch i edrych ar Wefan Hanes Digidol Powys. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||