|
1891
In English
Hafan
Addysg
Amodau Cymdeithasol
Bywyd yn y Cartref
Cyfraith a Threfu
Cymuned
Diwylliant
Gofal Iechyd
Gwaith
Powys: Y Pryd Hynny a Nawr
Trafnidiaeth
Mynegai
E-bost
|
| Diwylliant
ac Adloniant
Adloniant
yn Llandrindod
Gellid dod o hyd i lawer o'r adloniant
oedd ar gael yn Llandrindod yn 1891 yn y gwestai, gan nad oedd llawer
o leoliadau eraill ar gyfer adloniant wedi'u hadeiladu tan yn ddiweddarach
yn yr 1890au.
Roedd Gwesty'r Ty Pwmpio yn adeilad
anferth oedd yn cynnig llawer o gyfleoedd o ran hamdden i'w westeion.
Roedd y rhain yn cynnwys "Fine smoking and billiard
rooms, Large reading and writing room, adapted for amusements and dancing
(without interfering in any way with the comfort of visitors not attending
the same." Roedd y gwesty hefyd yn falch o'r Llyn a'i holl gyfleusterau,
ac roedd "A PRIVATE BAND engaged by the hotel performs
every day".
|

Bandstand,
Gwesty'r Ty Pwmpio
Archifau Sir Powys
|
|
Bandstand,
Gwesty'r
Ty Pwmpio o'r ochr arall.
Amgueddfa Sir Faesyfed

High Street,
Llandrindod,
yn dangos Neuadd y Dref yn y canol
Archifau Sir Powys
|
Roedd y gwestai llao hyd yn oed yn
gallu brolio bod ganddynt
biano:
Hysbyseb ar gyfer
Gwesty'r Cambrian,
Arweinlyfr Evans
Archifau Sir Powys
|
|
Roedd Neuadd y Dref ac Ystafelloedd
Ymgynnull yn yr High Street, oedd ar gael i'w llogi drwy wneud cais i
Edward Jenkins o Westy'r
Gwalia.
Yn ôl Arweinlyfr Evans:
|
"The Market Hall and Assembly
Rooms were first erected in 1872 by a limited liability company formed
by the inhabitants. Like many other Public Companies the Market Hall
and Assembly Rooms passed through several stages, until in 1890, the
property fell into the hands of Mr Edward Jenkins, Gwalia House, who
thoroughly reconstructed both the Market Hall and Assembly Rooms. Both
have been embellished inside and outside. The Assembly Room will accommodate
six hundred persons."
Gellir dod o hyd i enghreifftiau
o'r mathau o sioeau ar daith a fyddai'n llogi'r Neuadd i ddiddanu ymwelwyr
yn nhudalennau Neuadd Tref Machynlleth.
Roedd y Pafiliwn ymysg yr adeiladau
a godwyd i ddarparu adloniant:
|

Hysbyseb ar gyfer Neuadd
y Dref
ac Ystafelloedd Ymgynnull,
Arweinlyfr Evans
Archifau Sir Powys |
Y Pafiliwn Mawreddog
Newydd, Llandrindod
Amgueddfa Sir Faesyfed |
| Serch hynny,
roedd llawer iawn o ddiddanwch i'w gael o wisgo dillad arbennig a chyflwyno'ch
sioe eich hunan, neu efallai fynychu dawns gwisg ffansi. |
|

Grwp mewn gwisg
ffansi
Amgueddfa Sir Faesyfed
|
|