Diwylliant ac Adloniant Tîm Pêl-droed Y Drenewydd |
|
|
Cafodd y ffotograff hwn o Glwb Pêl-droed Y Drenewydd ei gymryd yn ystod tymor 1895-6 a chafodd y chwaraewyr eu henwi fel a ganlyn: Rhes gefn: F R Lloyd (Ysgrifennydd Anrhydeddus), J Harper, R Goodwin, A Townsend, T Worthington, W Stokes (Hyfforddwr). Rhes ganol: E
Morgan, A W Pryce-Jones, W E Pryce-Jones
(Capten), H F Mytton, W Parry. |
![]() Tîm Pêl-droed Y Drenewydd, 1895 Archifau Sir Powys |
| Erbyn yr amser hwn, roedd
pêl-droed yn dod yn gêm boblogaidd yn gyffredinol, a'r gweithwyr
yn dod o'r dosbarthiadau gweithiol medrus. Yn ôl pob tebyg, roedd
chwaraewyr Y Drenewydd yn derbyn rhyw fath o daliad, ond mae'n debygol eu
bod wedi parhau gyda'u swyddi, efallai o fewn y diwydiant gwlân. Er
bod y ffotograff hwn yn un diddorol o ran chwaraeon, ni fyddai llawer iawn
o'r dynion dosbarth gweithiol hyn yn ôl pob tebyg wedi cael llun wedi'u
tynnu ohonynt dan amgylchiadau eraill, boed gyda'u teuluoedd, yn y cartref
neu yn eu gwaith dyddiol. Hyd at yr 1920au a datblygiad ffotograffiaeth
lluniau sydyn, roedd ffotograffau o bobl gyffredin yn brin, gan mai'r bonedd
a'r dosbarthiadau canol yn bennaf a fedrai fforddio ffotograffau gan ffotograffwyr
arbenigol.
Gellir dod o hyd i rai o'r chwaraewyr ar gyfrifiad 1891 ar gyfer plwyfi'r Drenewydd a Llanllwchaearn: |
|
|
Y Rhes Gefn: |
|
J Harper: roedd
yna ddau bosibiliad ar gyfer y chwaraewr hwn, John Harper, 21, teiliwr yn
byw yn Dysart Terrace, Llanllwchaearn gyda'i rieni John and Mary, a dau
blentyn arall sef Elizabeth a Mary. |
![]() |
R Goodwin:
unwaith eto, mae yna ddau bosibiliad - Robert Goodwin, 21, nyddwr brethyn
cartref yn byw yn Bryn Street, Llanllwchaearn gyda'i fam Catherine a'i
frodyr a'i chwiorydd sef Martha, Abraham, Edward a Maggie. |
![]() |
A Townsend: Alfred Townsend, 27, peintiwr oedd yn byw yn y Canal Basin, Llanllwchaearn gyda'i wraig Caroline a'i ferch Emily. |
![]() |
T Worthington: Thomas Worthington, 25, masnachwr gwehyddu, yn byw yn Crynfryn Place, Y Drenewydd gyda'i lys-dad Edward Lewis a'i wraig Martha, y plant eraill, Richard ac Annie, a'i frawd David. Llwyddodd Worthington i chwarae mewn gêm ryngwladol yn erbyn yr Alban. |
![]() |
W Stokes (hyfforddwr): William Stokes, 34, tafarnwr yn byw yn Severn Street, Y Drenewydd gyda'i wraig Sarah a'i blant, Gertrude, William ac Elliott. Bu'n rhedeg tafarn y New Inn yno. |
|
Rhes ganol: |
|
![]() |
E Morgan: Roedd yna bedwar posibiliad ar gyfer y chwaraewr hwn. Y cyntaf oedd Edward Morgan, 17, gweithiwr gwlân yn byw yn Greens Court, Y Drenewydd gyda'i rieni William ac Eliza a thri phlentyn arall sef Samuel, Elizabeth a Jane. Yr ail oedd Ernest Morgan, 20, cyfrifydd o Upper Bridge Street, Llanllwchaearn. Roedd yn byw gyda'i dad Cornelius a'i chwaer Mary. Y posibiliad arall oedd Edward Morgan, 25 mlwydd oed, cynorthwy-ydd groser. Roedd yn byw gyda'i wraig Sarah a'i ferch Louisa yn Stryd y Farchnad, Y Drenewydd. Yr E Morgan olaf oedd Edward H Morgan, 30 mlwydd oed, clerc yn byw yn Crescent Street, Llanllwchaearn gyda'i wraig Catherine a'i feibion Edward a Herbert. |
![]() |
A W Pryce-Jones: A W Pryce-Jones: y Cyrnol Col A W Pryce-Jones yn ôl pob tebyg o'r teulu Pryce-Jones. Yn 1859, sefydlodd Pryce Jones fusnes archebu llewyrchus drwy'r post ac erbyn 1895, roedd nwyddau'n cael eu hanfon drwy'r post i bob rhan o'r byd. Roedd y llewyrch cynnar yn seiliedig yn bennaf oll ar frethyn Cymreig - y brethyn cartref Cymreig, siolau, sanau ac ati. Gwnaed y brethynnau hyn yn y melinau gwlân yr oedd Pryce-Jones yn eu gweithredu yn Y Drenewydd a'r Trallwng, tra bo'r cynnyrch gorffenedig yn cael eu gwneud mewn un o'r ffactrïoedd yn Y Drenewydd. Roedd sawl aelod o'r teulu Pryce-Jones yn hoff iawn o chwaraeon a ffurfiwyd cymdeithas hamdden ganddynt i'w gweithwyr yn y pen draw. Llwyddodd A W Pryce-Jones i chwarae gêm ryngwladol yn erbyn Lloegr yn 1895. |
![]() |
W E Pryce-Jones (capten): mae'n debyg iawn mai dyma oedd William Ernest Pryce-Jones, trydydd mab Syr Pryce a'r Foneddiges Eleanor Pryce-Jones. Ganed ef ar 29 Rhagfyr 1867, ac yn ôl henebion coffa yn eglwys plwyf Llanllwchaearn, bu farw ar 14 Mawrth 1949. Llwyddodd William i chwarae mewn tair gêm ryngwladol. |
![]() |
W Parry: William Parry, 20 mlwydd oed, clerc telegraff. Roedd yn byw yn Commercial Street, Llanllwchaearn gyda'i nain Hannah, ei ewythr Owen, modryb Catherine a modryb Annie, a'i frawd Albert (113, 3). |
|
Rhes flaen |
|
![]() |
T Chapman: Roedd Thomas Chapman, 19 mlwydd oed yn byw yn Canal Basin yn Llanllwchaearn gyda'i fam Ann Chapman. Yn ôl ei waith, roedd yn wisgwr. Llwyddodd Chapman i chwarae mewn sawl gêm ryngwladol ac aeth ymlaen i chwarae i Manchester City yn 1896. |
![]() |
H Tucker: H Tucker: Henry Tucker, 19 mlwydd oed, didolwr gwlân oedd yn byw gyda'i rieni William ac Emily yn Gas Street, Y Drenewydd gyda dau blentyn arall sef Alfred a Frederick. |
|
Catherine Richards, Rheolwr yr Archifdy
|
|