Gwestai a Thafarndai yn Broad Street, Y Drenewydd
|
Roedd gan Broad Street nifer dda o dai lletya, yn cynnwys dim llai na 10 yn 1891. Roedd y rhain yn amrywio o westai mawrion i dafarndai llai. Mae'n ymddangos mai'r un fwyaf oedd 'The Bear's Head Hotel' yn 4 Broad Street, er bod mwy o staff na gwesteion yn ystod y cyfrifiad. Am tua 50 o flynyddoedd, cafodd y 'Bear's Head' ei redeg gan Mrs Elizabeth Langworthy, ond bu farw yn 1889. Mae'n debyg fod rheoli gwesty yn cael ei ystyried fel gwaith parchus i ferch yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oherwydd yn 1891 roedd y gwesty yn cael ei reoli gan ferch - Jane Jenkins. Erbyn cyfnod Cyfeirlyfr Masnach Slater 1895 roedd y gwesty wedi newid dwylo unwaith yn rhagor ac yn cael ei redeg gan P Wilson Jones. |
|
| 1891 Census | ||||||
| Bear's Head Hotel | ||||||
| Name | Position
in household |
Marital status |
Age | Occupation | Place of Birth | English/Welsh
speaker |
| Pryce W Jones | Head | S | 30 | Hotel Proprietor | Cairn Montgomeryshire | Both |
| John R Bennett | Boarder | S | 29 | Commercial Traveller | Hereford | English |
| Edward B Procter | Boarder | Wid | 46 | Gentleman | Tenby Pembroke | English |
| Jane Jenkins | Serv | S | 32 | Hotel Manageress | Llandinam Montgomeryshire | Both |
| Ellen Price | Serv | S | 29 | Waitress | Llanidloes Montgomeryshire | Both |
| Margaret Lloyd | Cook | S | 49 | Cook | Berriew Montgomeryshire | English |
| Sarah J Owen | Serv | S | 20 | Housemaid | Penstrowed Montgomeryshire | Both |
| Susan Pugh | Serv | S | 16 | Kitchenmaid | Newtown Montgomeryshire | English |
A dweud
y gwir yn 1891 roedd y rhan fwyaf o'r tafarndai a'r gwestai yn Broad Street
yn cael eu rhedeg gan ferched. Dau westy oedd drws nesaf i'w gilydd oedd
Gwesty'r Unicorn yn Rhif 11 a'r Blue Bell yn Rhif 12.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yng Nghyfeirlyfr Masnach Sutton 1890, nodwyd mai Edward Morris oedd yn rhedeg y 'Blue Bell' - efallai mai dim ond newydd golli ei gwr oedd Harriet yn ystod adeg y cyfrifiad. Tafarn arall oedd yn cael ei rhedeg gan ferch oedd yr 'Elephant and Castle', ond fel y tafarndai eraill yn y dref mae'n ymddangos ei bod ychydig yn brin o westeion. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Byddai gan John Thomas, y "boots", ddyletswyddau cyffredinol fel porthor a oedd yn cynnwys glanhau esgidiau. Tafarn arall lle'r oedd merch yn dal y drwydded oedd y 'Black Boy' yn rhif 31: | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn olaf roedd y 'King's Head' yn rhif 53.
Roedd y 'King's Head' wedi newid dwylo ambell i waith cyn hyn, a nodwyd yng Nghyfeirlyfr Sutton mai Emily K Evans oedd yn ei redeg. Un o'r rhai oedd wedi dal y drwydded cyn hynny oedd David Kinsey ac roedd ei weddw yn dal i fyw yn Broad Street yn 1891. Roedd tafarn arall o'r enw 'Castle Vaults' yn rhif 46, ond nid oedd yn gartref i neb yn ystod y cyfrifiad. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Hysbyseb
o Gyfeirlyfr Suttons ar gyfer y 'Cambrian Vaults',
Y Drenewydd Archifau Cyngor Sir Powys |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||