Powys: Diwrnod Ym Mywyd

1891

In English

Hafan

Addysg

Amodau Cymdeithasol

Bywyd yn y Cartref

Cyfraith a Threfu

Cymuned

Diwylliant

Gofal Iechyd

Gwaith

Powys: Y Pryd Hynny a Nawr

Trafnidiaeth


Mynegai


E-bost




Gwaith

Gweision Domestig: Glanusk Park

Glanusk Park. Archifau Sir Powys
Glanusk Park
Archifau Sir Powys

Roedd y gwasanaeth domestig yn cynnig llawer iawn o waith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gallai hyd yn oed y cartrefi lleiaf cyfoethog ddisgwyl cael gwasanaeth gweision domestig cyffredinol, ac roedd y mwyafrif helaeth yn ferched ifanc sengl. Yn wir, y gwasanaeth domestig oedd yn cynnig y mwyaf o waith i ferched yn union hyd at ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Serch hynny, roedd hyn yn lleihau mewn poblogrwydd erbyn 1891. Roedd yr oriau gwaith yn hir iawn, y gwaith yn galed iawn ac yn aml yn unig, ac ni chafwyd y rhyddid a gafwyd gan weithwyr siop a ffatri.

Gallai'r tai mawrion ddisgwyl cyflogi llawer o weision. Roedd 17 o weision preswyl ym Glanusk Park, sef un o'r tai mwyaf ym Mhowys yn 1891.

1891 Census
Glanusk Park
Name Position in
household
Marital
status
Age Occupation Place of Birth
Bertha Elizabeth Stoors Governess S 42 Teacher Switzerland Berne
Louis Edward Mimms Serv S 28 Valet U S A Albany British Subject
Richard Stephen Giles Serv S 27 Underbutler Hampshire Beaulieu
Ellen Mary Ann Craddock Serv S 40 Housekeeper Middlesex Lambeth
Emma Souster Serv S 58 Cook Buckinghamshire
Ernest Rhead Serv S 28 Footman Leek Staffordshire
Margaret Ross Serv S 21 Ladies Maid Scotland Rosshire
Mary Elizabeth Pepper Serv S 20 Kitchenmaid Northampton
Mary Smith Serv S 21 Kitchenmaid Worcestershire
Annie Francis Serv S 24 Stillroom maid Pembrokeshire Haverfordwest
Annie Blackner Serv S 19 Stillroom maid Breconshire Crickhowell
Mary Hannah Grenshaw Serv S 29 Housemaid Berkshire Newbury
Annie Elizabeth Davenport Serv S 24 Housemaid Wellington Salop
Sarah Elizabeth Powis Serv S 19 Housemaid Herefordshire Stoke Lacey
Margaret Powell Serv S 20 Housemaid Breconshire Llangattock
Emily Franks Serv S 25 Schoolroom maid Pembrokeshire Haverfordwest
James Edwards Serv M 41 Coachman and Groom Ludlow Salop

Y cyntaf a restrwyd o dan y teulu Bailey oedd Bertha Stoors, yr Athrawes Gartref..

Roedd athrawesau cartref fel arfer yn bobl dosbarth canol oedd wedi derbyn addysg dda ond nad oedd yn annibynnol yn ariannol. Roedd ganddynt safle arbennig o fewn y ty. Er gwaethaf eu cefndir a'u haddysg, nid oeddynt yn dod o'r un dosbarth â'r teulu, ac nid oeddynt yr un fath yn union â'r gweision eraill ychwaith. Dim ond un plentyn oedd gan Bertha i'w ddysgu sef John Bailey oedd yn 12 mlwydd oed, er y byddai efallai wedi gorfod dysgu merched y teulu, oedd yn eu harddegau.

Roedd gweddill y gweision wedi'u rhestru yn ôl eu statws yn y cartref.

Helfa Aberhonddu yn Nhregunter, tua 1890.
Helfa Aberhonddu yn Nhregunter
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog

Yn gyntaf daeth Louis Mimms, gwas personol yr Arglwydd Glanusk.Roedd Louis yn cyflawni dyletswyddau personol ar ran Arglwydd Glanusk - er enghraifft, gofalu am ei ddillad a'u pacio - a byddai wedi teithio gydag ef pan fyddai oddi cartref.

Y gwas nesaf o ran statws oedd yr isfwtler, gan nad oedd bwtler wedi'i restru ar adeg y cyfrifiad. Byddai'r isfwtler wedi cynorthwyo'r bwtler ac yn ysgwyddo'i gyfrifoldebau pan fyddai'n absennol. Roedd dyletswyddau'r bwtler yn cynnwys bod yn gyfrifol am fwyd a gwin, gweini ar fyrddau, ateb y drws, glanhau neu oruchwylio gwaith glanhau platiau yn y ty, a goruchwylio gwaith gweision eraill yn y ty yn aml.

Y forwyn gyda'r statws uchaf oedd y wraig cadw ty. Roedd Ellen Craddock yn gyfrifol am forwynion, arlwyo, cyfrifon, dewis staff, storfeydd a llieiniau.

Emma Souster, y gogyddes oedd nesaf; ac yna daeth Ernest Rhead, y troedwas. Roedd cyfrifoldebau'r troedwas yn cynnwys bod yn gyfrifol am agor a chau drysau, y goets a'r bwrdd, glanhau'r llestri arian, gweithio fel gwas personol pan fyddai angen a bod yn gyfrifol o bryd i'w gilydd am oruchwylio'r pantri.

Wedi hynny, cafwyd y forwyn bersonol. Roedd dyletswyddau Margaret Ross yn cyfateb i ddyletswyddau'r gwas personol sef gofalu am wisgo meistres y ty, trwsio a gofalu'n gyffredinol am ei dillad.

Y gweision nesaf oedd y ddwy forwyn gegin. Fe fyddent wedi coginio prydau i'r staff, paratoi a choginio llysiau ar gyfer y ty a byddent wedi paratoi prydau bwyd i'r ty ambell waith petai'r gogyddes yn absennol.

Yna, cafwyd y ddwy forwyn gegin ganol. Roeddynt yn gyfrifol am baratoi gwinoedd, picls a chyffeithiau cartref gan ddefnyddio cynnyrch o'r gerddi.

Darning from a sampler
Brodwaith, o sampler o
bwythau gwnïo.
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog

Saig ar gyfer glanhau sidan.
"Carbonate of ammonia a pennyworth
disolved in cold water [. . .] for cleaning silk or cloth"

Saig ar gyfer glanhau sidan
Archifau Sir Powys

Rhestrir y pedair morwyn nesaf. Fe fyddent yn dwstio, glanhau, gofalu am danau, glanhau llestri arian, gosod a gweini ar fyrddau a chynorthwyo wrth drwsio llieiniau'r ty.

Yr aelod olaf o staff oedd yn byw yn y ty oedd Emily Franks, y forwyn ystafell ddosbarth, oedd yn gyfrifol am wasanaethu'r merched ysgol hynaf, cadw'r ystafell ddosbarth yn lân a chludo prydau bwyd yno. Byddai'n mynd gyda'r merched hyn y tu allan i'r ty weithiau.

Hefyd, roedd James Edwards y Coetsmon a Gwas Stabl yn byw yn y porthdy i'r prif dy.

Yn ôl safonau Powys, roedd Glanusk Park yn blasty mawr, er y byddai rhai o'r plastai mwyaf ym Mhrydain yn gallu cael oddeutu 40 o weision.



¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦
¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦
¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦