| |||
|
1891 |
Bywyd yn y Cartref Diwrnod golchi
Roedd diwrnod golchi yn ddiwrnod mawr yng nghartrefi Oes Fictoria. Oherwydd y gwaith caled, nid oedd yn digwydd yn aml, tua unwaith y mis fel rheol. Y lleiaf aml oedd y golchi, y mwyaf cefnog y gallai'r teulu hawlio bod, gan fod ganddynt ddigon o ddillad tan y diwrnod golchi nesaf. Byddai gan dai gwledig mawr olchdy wedi'i adeiladu'n arbennig, syniad oedd yn cael ei efelychu mewn tai a ffermdai mwy. Byddai'n rhaid i dai llai fodloni ar ddefnyddio'r gegin neu'r buarth i wneud hyn. Cyn bod dwr yn dod i'r tai, byddai'n rhaid ei gludo'n bell ambell waith. Roedd rhai'n ceisio storio dwr glaw, a gallai cymunedau gwledig ddefnyddio'r nant i olchi. Cynyddodd y defnydd o sebon i olchi trwy gydol ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi i'r dreth ar sebon gael ei diddymu yn 1853. Roedd dros stôn (16 pwys) o sebon yn cael ei ddefnyddio y pen yn 1891. Hefyd, byddai canyddion a lliw glas eu defnyddio gyda dillad gwyn. Defnyddiwyd starts gyda lleiniau, ffedogau a choleri, a byddai hyn yn cael ei ystyried yn sgil arbenigol.
Câi'r dillad eu golchi mewn tybiau neu fwcedi mawr. Pren oeddent fel rheol, er bod rhai metel yn dod yn fwy cyffredin. Roedd y gwaith golchi'n cael ei wneud â 'doli' -- polyn gydag un pen â siâp côn neu fel stôl deircoes fechan. Câi hwn ei ddefnyddio i droi'r dillad yn y dwr berwedig. Roedd byrddau golchi hefyd yn dod yn fwy poblogaidd, gan gael eu defnyddio â thwb lletach, siâp bath; roeddynt yn haws ac yn gynt i'w defnyddio na'r hen ddoli. Byddai pobl yn rhwbio sebon ar y dillad i gael gwared â staeniau. Er bod rhai yn bodoli yn 1891, nid oedd peiriannau golchi yn boblogaidd, ac roeddynnt yn ddrud i'w prynu a'u defnyddio.
Roedd y broses o olchi'n cymryd diwrnod cyfan bron, a roedd yn rhaid cychwyn yn gynnar er mwyn sychu'r dillad. Roedd yn arferol i sychu dillad ar wrychoedd neu hyd yn oed mewn caeau lle'r oedd y gwair wedi'i dorri, neu ar hors dillad a lein yn y ty mewn tywydd gwlyb.
Wedi i'r dillad gael eu golchi a'u rinsio, byddent yn cael eu gwasgu i gael gwared o unrhyw ddwr, a'u hongian i sychu. Wedi iddynt sychu, byddai dillad a dillad gwely'n cael eu manglo i'w gwneud yn llyfn, yn lle eu smwddio ambell waith. Defnyddid y Mangl hefyd i wasgu dwr o'r dillad. Roedd mwy a mwy yn berchen ar fangl wrth iddynt ddod yn llai ac yn rhatach.
Yna, byddai'r dillad yn cael eu smwddio. Gellid cael haearnau o wahanol bwysau, ond nid oeddynt yn cadw'u gwres yn hir. Roedd haearnau i'w cael mewn meintiau a phwysau gwahanol, ar gyfer gwahanol danwydd a thasgau smwddio.
Yna, byddai'r dillad yn cael eu gadael i'w crasu. Gan fod golchi'n broses mor llafurus, roedd yn darparu gwaith ar gyfer gwragedd a fyddai'n fodlon gwneud y gwaith am dâl. | ||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||