Chwaraeon
|
Roedd saethu'n weithgaredd hamdden poblogaidd arall. Bu Cyffinwyr De Cymru yn annog cystadleuaeth ymysg ei swyddogion a dynion gyda'r Gwpan Bataliwn. Mae'r llun isod yn dangos enillwyr cwpan 1892: |
![]() "Cwmni "A" o Dîm Saethu Bataliwn Gwirfoddol Cyntaf Cyffinwyr De Cymru, 1892 Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|
Roedd mathau eraill o chwaraeon yn tyfu mewn poblogrwydd ar y pryd: chwaraeon tîm; chwaraeon oedd yn dderbyniol gan ferched megis tennis a chroce ; a seiclo oedd yn dod yn weithgaredd hamdden poblogaidd iawn. |
|