Chwaraeon Tîm
|
Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gwelwyd chwaraeon tîm mwyaf poblogaidd y dyddiau hyn yn cael eu sefydlu ar lefel clwb, megis criced, pêl-droed a rygbi. Roedd criced fel gêm wedi bod mewn bodolaeth ymhell cyn oes Fictoria, er mai dim ond yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg y sefydlwyd clybiau criced mwyaf blaenllaw heddiw. Mae'r llun isod yn dangos Clwb Criced De Cymru. Y chwaraewyr a restrir yw: Rhes uchaf Ch-Dd: Pullen (dyfarnwr), Jno Lloyd, H Grace, C W Fryer, P Lloyd, E Grace, S H Belcher, Capten Lloyd. Rhes isaf: G C Williams, Capten Homfray, G Worthington. |
|
|
Roedd yna gricedwyr proffesiynol yn byw ym Mhowys ar adeg cyfrifiad 1891. Roedd un yn byw yn Aberhonddu, er bod y llythrennau ex wedi'u nodi mewn pensil ar ôl ei swydd:
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Math arall o chwaraeon tîm oedd rygbi. Llun o dîm rygbi Coleg Crist, Aberhonddu tua 1885 yw'r llun isod.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Roedd pêl-droed yn boblogaidd hefyd. Mae'r llun isod yn llun o dîm bechgyn o ysgol breifat Taethllawn yn Sir Drefaldwyn. ![]() Tîm pêl-droed Ysgol Traethllawn Amgueddfa Powysland a Chanolfan Camlas Sir Drefaldwyn |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Tynnwyd llun o dîm hynach o Aberhonddu tua 1895. ![]() Clwb Pêl-droed, tua 1895 Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae yna wybodaeth manylach am dîm pêl-droed Y Drenewydd ar dudalen ar wahân .
Serch hynny, roedd yna ystafell hefyd i dimau merched, fel a ddangoswyd yn y dudalen ar y tîm gymnasteg merched o Aberhonddu. Gweler y manylion yma.