| ||||||||||||||
|
1891 |
Gofal Iechyd Meddyginiaethau Cartref: Mewnol Roeddem yn ddigon ffodus i ddod o hyd i gasgliad o feddyginiaethau cartref, ymysg dyrnaid o rysetiau. Mae ychydig o'r rhain i'w gweld isod -- ond ni allwn argymell i chi roi tro arnynt gartref !
Roedd y dudalen lle'r oedd yn sôn am wella tagu hefyd yn cynnwys dau rysáit ar gyfer y methedig. Mae'r ddwy feddyginiaeth peswch canlynol yn cynnwys 'opium derivatives': 'laudanum' a 'paregoric'. Roedd 'paregoric' wedi'i wneud o opiwm mewn ffurf powdwr, camffor a glyserin; roedd 'laudanum' yn gymysgedd cryfach o opiwm. Roedd surop 'squills' wedi'i wneud o fylbau Urginea maritima, ac fe'i defnyddiwyd ar gyfer moddion peswch. Roedd 'Tincture o Tolu' yn dod o goeden y 'Myroxylon Toluifera', ac roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel moddion peswch. Rydym yn fwy cyfarwydd â 'Sal volatile' fel halenau synhwyro.
Roedd angen mesurau cryfach ar gyfer y pâs, oedd yn gyflwr mwy difrifol. Fel arfer, roedd camdreuliad weithiau'n broblem:
Yn ôl 'Harcourt Academic Press Dictionary of Science and Technology', y Dropsi yw croniad "an abnormal accumulation of fluid in the tissues or in a body cavity".
Diolch yn fawr i http://www.ibiblio.org/herbmed/eclectic/main.html am y trawsysgrifau o destun meddyginiaethau llysieuol clasurol. | |||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
||||||||||||||