| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Gofal Iechyd Fferyllfeydd ym Mhowys: W W Johnson Fferyllydd o Derby oedd William W Johnson a brynodd fferyllfa yn Llandrindod. Sefydlwyd y siop tua 1878. Pan brynodd William Johnson y busnes oddi wrth George Bentley, roedd ganddo ddwy siop yn y Stryd Fawr a Temple Street (caewyd y siop yn y Stryd Fawr yn 1926 a daeth un arall yn ei lle ar 'Park Crescent'). Gwerthwyd y busnes yn y pen draw i George Hilliar, cyn brentis i William Johnson. Bu farw Johnson yn 1947. Yn 1891 roedd yn byw yn y siop ar y Stryd Fawr gyda'i wraig a'i ferch fach, ac mae'r cyfrifiad yn dangos ei fod yn ddigon cefnog i allu cael dau was yn byw gyda'r teulu:
Mae llyfrau presgripsiwn gwreiddiol Johnson ar gyfer 1891 yn dangos y gwahanol feddyginiaethau a ddosbarthwyd ganddo, gan gynnwys presgripsiwn ar gyfer Mrs Twyning, gwraig Major Twyning ynad lleol. Gellir gweld tudalennau eraill o'r llyfrau presgripsiwn yma.
Mae nifer o foteli gwreiddiol y fferyllydd o siop Johnson yn 'Park Crescent' bellach yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Maesyfed. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||