|
1891
In English
Hafan
Addysg
Amodau Cymdeithasol
Bywyd yn y Cartref
Cyfraith a Threfu
Cymuned
Diwylliant
Gofal Iechyd
Gwaith
Powys: Y Pryd Hynny a Nawr
Trafnidiaeth
Mynegai
E-bost
|
| Gofal
Iechyd
Ysbyty Bwthyn
Llandrindod
Sefydlwyd meddygfa yn Llandrindod
yn yr 1870 au gan Dr
William Bowen Davies ac ef wnaeth arwain yr ymgyrch i sefydlu ysbyty
bwthyn mewn tref oedd yn tyfu'n gyflym. Ysbytai syml oedd yr ysbytai bwthyn
hyn ar gyfer y tlawd ac yn cael eu rhedeg yn wirfoddol yn bennaf gyda
chyn lleied o staff â phosib. Rhoddwyd y safle fel rhodd gan dirfeddiannwr
lleol o'r enw Mr E Middleton Evans, ac roedd Dr Davies yn gweithio'n agos
gyda gwraig Mr Middleton Evans. Roedd hi'n eithriadol o frwdfrydig ynghylch
y prosiect gan weithio'n ddiflino i godi'r arian angenrheidiol.
|

Darlun o Ysbyty Bwthyn Llandrindod
|

Dogfen am godi arian ar gyfer Ysbyty
Bwthyn Llandrindod
Archifau Ysbyty Llandrindod |
Agorwyd yr ysbyty yn 1881 o dan y
teitl 'Llandrindod Wells Cottage Hospital and Convalescent Home' ac roedd
ar gyfer y rheini oedd yn dioddef o afiechyd neu anaf, er ni fyddai achosion
heintus yn cael mynd yno. Agorwyd ysbyty ar wahân ar gyfer y diben
hwnnw.
Roedd yn rhaid i gleifion gael eu
hargymell gan Lywodraethwyr ymddiriedolaeth yr ysbyty ac i wneud cyfraniad
o 5/- yr wythnos fel cyfraniad tuag eu gofal. Roedd hyn mae'n amlwg yn
rhy ddrud i rai o'r cleifion ac felly codwyd pris newydd o 2/6 yr wythnos
ar gyfer trigolion Brycheiniog a Maesyfed.
|
| Mae cyfrifon yr ysbyty yn dangos
fod gan yr ysbyty gyfrif iach o £58.19.7d erbyn diwedd 1891.
Mae cofnodion yr ysbyty hefyd yn
cofnodi bonws oedd yn daladwy i'r Metron Elizabeth Jeffrey, a chyfraniad
tuag at ei gwisg.
|
Dogfen gyfrifon ar gyfer Ysbyty Llandrindod yn nodi'r prisiau newydd i gleifion,
1892
Archifau Ysybyty Llandrindod |
|
"It was resolved
that the Bonus of £10 should be again given to the Matron in recognition
of her valuable services. And a further sum of £3 towards the cost
of uniform.
Amy
de Winton
Hon. Sec."
|

Cofnodion yr ysbyty yn nodi'r bonws oedd yn daladwy i'r Metron
gan gynnwys ffi tuag at ei gwisg
Archifau Ysbyty Llandrindod
|
Am ragor o wybodaeth am yr ysbyty a'i gleifion,
ewch i'r dudalen nesaf.
|