| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Gofal Iechyd Ysbyty Bwthyn Llandrindod: cleifion ac afiechydon I ddechrau roedd yr ysbyty yn gallu cymryd 6 oedolyn a dau o blant, ond erbyn cyfnod y cyfrifiad yn 1891 roedd yn gallu cymryd y canlynol:
Gan mai cyrchfan gwyliau oedd y dref roedd yn arferol i'r cleifion ddod o du allan i'r ardal, felly oedd yn achos Francis Cooke, tra yr oedd yn yr ysbyty wnaeth rhywun ddwyn ei fest yn anffodus. Roedd llawer yn ymweld â'r dref i yfed y dwr ac i wella eu hiechyd. Yn 1891 cafodd cyfanswm o 137 o gleifion eu derbyn yno. Roedd y rhain yn dod o: Sir Faesyfed 57 Roedd gan yr ysbyty hanes da o ran triniaethau. Dim ond un claf a fu farw yn 1891, o ganlyniad i rwystr yn y perfeddion. Gadawyd 101 i fynd adref yn iach, gan gynnwys bachgen bach o Abered, Robert Morris a ddangosir ar y cyfrifiad. O'r cleifion oedd yn weddill, roedd 23 wedi gwella a dim ond 12 doedd ddim wedi gwella neu oedd yn parhau i dderbyn triniaeth. Rhestrir yr afiechydon a'r anafiadau yr oeddynt yn dioddef ohonynt fel a ganlyn:
Roedd yr is-ddeddfau yr oedd yn rhaid i'r cleifion gadw atynt yn cyfyngu llawer. Mae rhai o'r offer a ddefnyddiwyd yn yr ysbyty wedi'u cadw yn Amgueddfa Maesyfed. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||