| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
1891 |
Gofal Iechyd Robert Morris o Aberedw Ar adeg y cyfrifiad yn 1891 roedd bachgen 4 blwydd oed o'r enw Robert Morris oedd yn byw yn Aberedw yn Sir Faesyfed yn un o'r cleifion yn yr Ysbyty Bwthyn. Gellir gweld ei deulu yn y cyfrifiad:
Bedyddiwyd Robert yn Eglwys y Plwyf yn y pentref ar yr 28ain o Orffennaf 1887, bryd hynny roedd ei dad yn disgrifio ei hunan fel 'ffermwr' ac roedd yn byw ym Mhenygarreg.
Serch hynny, erbyn i'w chwaer Maud gael ei bedyddio ar Chwefror 5ed 1890 roedd y teulu wedi symud i Flaen-Meilwen, Aberedw a nodwyd gwaith y tad fel gweithiwr -- ac yn y cyfrifiad fel 'bugail'. Roedd y teulu yn byw tua 3 milltir i ffwrdd o'r pentref, fel y dangosir yn llyfr log yr ysgol ar gyfer y flwyddyn honno.
Cafodd ei chwaer Maud ei bedyddio'n breifat, arfer oedd yn cael ei gadw i fabanod nad oedd disgwyl iddynt fyw. Serch hynny, nid oes cofnod ohoni'n cael ei chladdu yng nghofrestr o gladdedigaethau'r plwyf ac yn ôl y cyfrifiad bu fyw y tu hwnt i'w phen blwydd cyntaf. Cafodd Robert ei anfon i Ysbyty Bwthyn Llandrindod ar argymhelliad y Col. Picton Turberville wedi iddo ddioddef llosg. Treuliodd gyfanswm o 42 niwrnod yn yr ysbyty a chafodd ei anfon gartref oddi yno mewn iechyd da. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
¦ Mynegai ¦ Hafan ¦ Addysg ¦ Amodau Cymdeithasol ¦ Bywyd yn y Cartref ¦ Cyfraith a Threfin ¦ ¦ Cymuned ¦ Diwylliant ¦ Gofal Iechyd ¦ Gwaith ¦ Powys: Y Pryd Hynny a Nawr Trafnidiaeth ¦ ¦ Am y Prosiect ¦ Partneriaid ¦ Ffynonellau & Cydnabyddiaeth ¦ Llinell Amser - 1891 ¦ Llinell Amser - 2002 ¦ |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||