| Diwylliant
ac Adloniant
Adelina
Patti a Chastell Craig-y-Nos
Roedd hi'n wraig hardd gyda thymer
artistig nwydus ac roedd yn boblogaidd ac enwog trwy Ewrop gyfan. Erbyn
iddi ddewis byw yng Nghwm Tawe Uchaf yn Sir Frycheiniog, roedd hi eisoes
yn gantores fawr ei chlod oedd yn perfformio'n rheolaidd ar gyfer teuluoedd
brenhinol ar draws Ewrop gyfan gan ofyn am ffioedd mawrion am bob perfformiad.
|

Adelina Patti
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog
|
|

Cerdyn post o "Graig-y-Nos"
(Cartref Madam Pattie.)
Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog
|
Ni fu ei phriodas gyntaf i Farcwis
Caux yn llwyddiant; yn 1878, prynodd Gastell Craig-y-Nos
yn Sir Frycheiniog i fyw yno gydag Ernest Nicolini, ei chariad oedd yn
ganwr opera arall a fu'n bartner iddi mewn nifer o ddeuawdau. Roedd ef
yn mwynhau bywyd y wlad. Bu Adelina yn byw yng Nghraig-y-Nos gyda Nicolini
tan ei farwolaeth yn 1898, gan ei briodi yn Ystradgynlais yn 1886 yn dilyn
ei hysgariad.
Bu'n weithgar iawn ym mywyd y gymuned
leol ar ôl priodi Nicolini a bu'n gyfrannwr hael, gan roi cyngherddau
elusennol hyd yn oed ar ôl iddi ymddeol. Roedd hi'n ffefryn arbennig
yn nhrefi Aberhonddu, Abertawe a Chastell-nedd, a chanodd drwy gyfrwng
y Gymraeg yn yr Eisteddfod yn Aberhonddu yn 1889.
|
|
Cyflawnodd nifer o brosiectau adeiladau
yn y Castell dros y blynyddoedd ac yn 1891, agorodd theatr.
Cynhaliwyd nifer o gynhyrchiadau cerddorol yno dros y blynyddoedd dilynol,
tan farwolaeth Nicolini. Ailbriododd Adelina yn 1899 a'i gwr newydd oedd
y Barwn Cederstrom, oedd llym yr olwg. Wedi hyn, ni fu Adelina yn perfformio
nac yn diddanu cymaint a threuliodd fwy o amser yn ei chartref yng Nghraig-y-Nos
gyda'i gwr a'i staff ymroddedig o fewn y ty.
|