Gofal Iechyd

Moddion1891
moddion pils 2002

Yn 1891 roedd gofal iechyd oedd wedi'i drefnu dal yn ei flynyddoedd cynharaf -- sefydlu ysbyty bach yn Llandrindod a Meddyg preswyl cyntaf y dref Dr Bowen Davies, o'i gymharu â sefydliad anferth yr Awdurdod Iechyd Cenedlaethol heddiw. Mae'n tudalennau yn dangos y rhesymau pam bod cleifion yn yr ysbyty yn 1891, a sut fywyd oeddent yn ei gael y tu mewn i'r ysbyty. Rydyn ni'n edrych ar achos un bachgen bach, Robert Morris, a aeth i'r ysbyty o ganlyniad i ddamwain. Rydym hefyd yn edrych ar anhwylderau a ddioddefir gan rai o'n dyddiadurwyr cyfoes, ac ar waith nyrsys, deintyddion a phobl broffesiynol eraill mewn meddygaeth Fictoraidd a chyfoes.

Nid oedd llawer o'r pryderon oedd gan pobl yn 1891 yn annhebyg i rai heddiw. Fel roedd Fictoriaid yn pryderu am eu hiechyd ac yn dod i'r ffynhonnau mewn niferoedd i gerdded a chymryd y dwr ystyriwch y dyddiadur gan nyrs ysgol yn disgrifio'i hymdrechion i addysgu plant i fyw'n iach o oedran cynnar iawn.

A beth am feddyginiaeth - triniaethau parod a meddyginiaeth cartref 1891 a'r meddyginiaeth sy'n cael ei gymryd heddiw? A sut mae cynnydd ym mhoblogaeth meddyginiaeth amgen efallai'n deillio nôl i boblogrwydd Ffynhonnau Oes Fictoria?


1891

2002