Amodau cymdeithasol

Wyrcws 1891
Ymddeol 2002

Mae llawer o wahaniaethau rhwng 1891 a 2002 cyn belled â bod amodau cymdeithasol yn y cwestiwn, ond llawer o gymariaethau hefyd. Ydy amodau ym Mhowys wedi gwella o hyd ers 1891 o anghenraid? Mae llawer o ddyddiadurwyr 2002 yn tristáu wrth ystyried y dirywiad mewn gwasanaeth mewn cymunedau bychain.

A sut mae agweddau wedi newid ynglyn â rhoi cymorth ariannol i'r anghenus? Yn 1891 rydym yn edrych ar gymorth eglwysig ac ar wir natur bywyd dyddiol caled yn yr wyrcws, ac yn 2002 ar bobl yn rhoi a derbyn cymorth ariannol ymysg ein dyddiadurwyr.

Rydym yn edrych ar ofal plant yn y gorffennol a heddiw -- beth ddigwyddodd i'r teulu Morallee yn 1891 pan adawodd tad y teulu, a sut fywyd yw bywyd mam sengl heddiw? Yn 1891 anfonwyd John Tudor 7 oed o Wyrcws Llanfyllin i fyw gyda'i daid, gan wahanu'r teulu. Yn 2002 rydym yn edrych ar ffyrdd y mae teidiau a neiniau yn cynorthwyo i ofalu am blant tra mae eu rhieni yn mynd allan i weithio.

A beth am agweddau tuag at anabledd? Sut byddai pobl gydag anabledd meddyliol a chorfforol wedi cael eu trin yn y man gwaith, o'i gymharu â heddiw? Rydym yn edrych ar waith anhygoel athro Saesneg i bobl ddall.

A sut mae bywyd yn cymharu ar gyfer aelodau hyn y gymdeithas, a phwy sy'n gofalu am yr henoed heddiw? Sut mae bywyd wedi newid i rywun sydd wedi ymddeol ym Mhowys? Sut roedd pobl yn ymdrin â thlodi yn 1891 ac a oedd yr wyrcws o reidrwydd yn beth drwg? Rydym yn edrych ar achos hynod Thomas Davies o'r Trallwng, gwr yr oedd ei gyflwr mor ddrwg nes ei fod eisiau mynd i fyw yn wyrcws Ffordun.


1891

2002