Cyfraith a threfn
Erbyn 1891 roedd yr heddlu ym Mhowys wedi ei trefnu'n dda i'r tair sir -- Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn ond erbyn 2002, roedd yn ffurfio rhan o Heddlu Dyfed Powys gan wasanaethu ardal fwy nag unrhyw lu arall yng Nghymru a Lloegr. Sut byddai gwaith wedi newid i heddwas yn y cyfnod hwnnw, a sut mae dedfrydu troseddwyr wedi newid?
Yn 1891 rydym yn edrych ar achos difrod troseddol yn ymwneud â cherrig beddi wedi eu difrodi, a'r bobl oedd yn rhan o hynny; y torrwr-beddau a'i wraig, teulu'r bobl y cafodd eu beddau eu difrodi a'r diffynnydd ei hun; yr ustus a dynnodd achos yn ei erbyn a'r carchar yr anfonwyd ef iddo am 7 diwrnod. Rydym hefyd yn edrych ar achos o ddwyn o ardd; y dioddefwr, yr olchwraig a'r lleidr, yr heddwas a deithiodd 12 milltir i'w arestio a'r ynad a'i ddyfarnodd ef i 18 diwrnod o lafur caled.
Yn 2002 mae dyddiadur prif arolygydd heddlu yn adlewyrchu rhai o bryderon y
dydd, ac ynad yn siarad am y math o faterion y mae ef yn ymdrin â hwy
yn ei waith. Rydym hefyd yn edrych ar ychydig o waith a wneir gan gyfreithwyr
Powys ar ddiwrnod y dyddiadur, a Llys Sirol. A sut y cafodd bywydau rhai o'n
dyddiadurwyr eraill eu cyffwrdd gan y gyfraith
ar Fedi'r 24ain?
1891 |
2002 |