Trafnidiaeth

Gwneuthurwyr Coetsys 1891
Beic modur 2002

Mae newidiadau yn y modd mae pobl Powys yn cludo'u hunain ar draws y sir ac ymhellach yn amlwg ac yn glir iawn i'w gweld rhwng 1891 a 2002.

Daeth y rheilffyrdd â newidiadau anferth i bellter a pha mor aml yr oedd angen teithio yn 1891 ac rydym yn edrych ar yr effaith ddramatig a gafodd ar un dref ym Mhowys yn arbennig -- Aberhonddu. Daeth â llawer o waith i'r dref yn ogystal â chludo pobl a nwyddau. Pwy oedd yn gweithio ar y trenau, ar y cledrau ac yn y siediau injan; yn yr orsaf ac ym mhencadlys y rheilffordd? Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, sut oedd y rheilffyrdd wedi effeithio ar ddyddiadurwyr 2002 mewn dyddiau pan nad yw'r rheilffordd yn cyrraedd Aberhonddu bellach?

Sut mae teithio ar ffyrdd wedi newid? Pa mor bwysig oedd ceffyl i drafnidiaeth yn 1891 o'i gymharu â'r effaith anferthol a gafodd y car ar fywyd modern? Sut fyddai ffarier modern wedi cymharu gyda gof Fictoraidd? Rydym ni'n edrych ar y ffyrdd yr oedd pobl yn defnyddio'u ceir, hefyd bysiau. Sut mae plant yn cyrraedd yr ysgol heddiw o'i gymharu gydag 1891?

Cyn belled â mae dulliau eraill o drafnidiaeth yn y cwestiwn, rydym yn edrych ar gamlesi -- roedd dirywiad wedi bod yn eu defnydd masnachol hyd yn oed yn 1891 ond maent yn cael eu mwynhau drwy hamdden heddiw yn union fel y pryd hynny. Rydym yn cymryd golwg ar y beic - roedd yn dal i fod yn ddyfais eithaf newydd a drud yn 1891 ond mae rhai pobl yn dal i'w ddefnyddio fel modd o drafnidiaeth heddiw.

Yn olaf. Beth am deithio yn yr awyr? Nid oedd yn bodoli bron yn 1891, heblaw am yr ymdrechion trychinebus i hedfan mewn balwnau aer poeth, sut mae teithio yn yr awyr wedi trawsffurfio symudiadau trigolion Powys?


1891

2002