Addysg

Ysgol 1891
Ysgol 2002

Mae'r llyfrau log a oedd yn cael eu cadw gan brifathrawon ysgolion yn 1891 yn rhoi cipolwg diddorol iawn a phersonol i ni o fywyd dyddiol mewn Ysgol Fictoraidd. Sut mae profiadau prifathrawes Fictoraidd yn Abaty Cwmhir yn cymharu gyda phrofiadau prifathrawon yn ysgolion pentref modern Powys? Beth oedd yn cael ei ddysgu bryd hynny a nawr? Gellir cymharu cofnodion llyfr log o ysgol Buttington yn 1891 gyda chofnodion dyddiaduron 2002. Mae rhai problemau yn parhau i fod yr un fath -- diffyg adnoddau, yr ymdrech i gadw safonau o dan bwysau gan arolygiadau ysgol, a'r daith hir i'r ysgol oedd yn wynebu rhai disgyblion. Mae rhai wedi diflannu bron yn gyfan gwbl -- presenoldeb isel oherwydd salwch, neu'r disgwyliadau i blant gynorthwyo gartref, neu'r ffaith nad oedd ganddynt esgidiau i'w gwisgo. Mae problemau eraill wedi cymryd eu lle - cynnydd mewn biwrocratiaeth ac archwiliadau'r heddlu ar staff.

Ond mae ochr hapus i nifer o ysgolion, gan eu bod yn tretio'r disgyblion gydag anrhegion, ymweliadau ac ati yn 1891 fel heddiw. Anfonodd llawer o athrawon 2002 ddyddiaduron yn disgrifio eu diwrnod, fel y gwnaeth llawer o staff eraill a chynorthwywyr sy'n ymwneud â bywyd dyddiol ysgol gyfoes.

A beth am ysgolion annibynnol? Sut mae myfyrwyr Coleg Crist Aberhonddu yn cymharu gyda'r myfyrwyr o Oes Fictoria?

Mae llawer o bobl yn 2002 yn siarad am eu haddysg fel oedolion -- sut mae hyn yn cymharu gydag 1891?

Anfonodd llawer o blant o wahanol oedrannau dyddiaduron i ddisgrifio, ac yn aml i dynnu llun o'u diwrnod ar 24ain 2002, gan roi cipolwg o'u bywyd dyddiol.


1891

2002