Bywyd dinesig a chymunedol
Barwn Ormathwaite 1891
Drefnwyr clybiau 2002

Dim ond rhai aelodau cefnog o'r gymdeithas oedd yn ymwneud â bywyd dinesig yn 1891, megis y Barwn Ormathwaite, Cadeirydd Cyngor Sir Faesyfed, a dim ond nifer cyfyngedig o ddynion oedd â'r hawl i bleidleisio. Yn 2002 mae llawer mwy o ddynion a merched o bob lefel o'r gymdeithas yn ymwneud â bywyd dinesig a chymunedol, o'r sawl math o gynghorydd lleol, i Sefydliad y Merched, i drefnwyr clybiau, i'r bobl wnaeth orymdeithio dros yr ymgyrch 'Rhyddid a Bywoliaeth'. Gellir cymharu diwrnod ym mywyd aelod o'r Senedd Ewropeaiddgyda digwyddiad anffodus a ddigwyddodd i Syr Pryce Pryce Jones, AS Llanidloes yn 1891.

Yn 2002 mae llawer o bryder am yr amgylchedd, yn ymestyn o ailgylchu i ffermydd gwynt. Roedd melin yn 1891 yn beth gwahanol iawn. A phobl sy'n codi arian ar gyfer elusennau - sut mae ymdrechion dyddiadurwyr 2002 yn cymharu gyda phobl 1891?

A sut mae dylanwad crefydd wedi newid i bobl Powys? All bywyd dyddiol pregethwr Methodistaidd Cyntefig teithiol ar droad yr Ugeinfed Ganrif gymharu gyda bywyd dyddiol modern Gweinidog Yr Eglwys yng Nghymru?


1891 2002