Celfyddyd, hamdden ac adloniant

Gymnasteg marched 1891
'skateboarders' 2002

Sut mae bywyd cymdeithasol a chelfyddydol pobl Powys wedi newid ers 1891 a sut ydym ni'n adlonni'n hunain yn awr o'i gymharu gyda nhw?

Cyffyrddodd marwolaeth fywydau cymaint o ddyddiadurwyr 2002 fel y gwnaeth i'r Fictoriaid, ac roedd angladdau yn dal yn ddigwyddiad pwysig. Ond roedd genedigaethau, priodasau a phen-blwyddi priodas hefyd i'w dathlu.

Roedd chwaraeon yr un mor bwysig i bobl Powys gyfoes ag yr oeddent yn 1891 -- cymharwch dîm gymnasteg marched Aberhonddu yn 1891 gyda dyddiadur Jo Weale yn disgrifio ei phrofiad yn ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2002. Ond teimlwyd bod y chwaraeon cefn gwlad traddodiadol oedd mor boblogaidd ym Mhowys y Fictoriaid o dan fygythiad yn 2002; roedd yn un o'r materion a godwyd yn ystod yr orymdaith 'Liberty and Livelihood'.

Mae llawer o ddiddordebau hamdden wedi aros yr un fath, gyda phobl fodern yn mwynhau cerdded a theithiau. A beth fyddai person Fictoraidd ar ei wyliau yn disgwyl o'i gymharu gyda phobl heddiw?

Gellir gweld pa fath o fywyd cymdeithasol roedd dyn ifanc Fictoraidd yn ei fwynhau o ddyddiadur William J Bufton, o'i gymharu â gweithgareddau cymdeithasol y mae ein dyddiaduron ni'n eu mwynhau. Pwy oedd y person adnabyddus a ddaeth i fyw ym Mhowys yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg? Beth oedd pobl Machynlleth yn ei fwynhau yn 1891 yn eu theatr leol o'i gymharu gyda'r math o berfformiadau mae pobl yn eu gweld heddiw -- beth fyddai cynulleidfa sinema fodern yn ei feddwl o sioe lantern hud?

1891

2002